ACE

Achieving Change through Employment

Sicrhau Newid trwy Gyflogaeth

Mae ACE yn brosiect sy’n helpu pobl o gymunedau du a lleiafrifol ethnig a mudol i ddod o hyd i waith.

ACE is a project that helps people from Black and Minority Ethnic and Migrant communities to find work.

Os ydych chi’n byw yng Nghasnewydd neu Sir Fynwy, dros 25 oed ac o gymuned ddu a lleiafrifol ethnig neu fudol, ac sydd â diddordeb mewn symud i mewn i hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth, gallwn ni helpu.

Rydym yn cefnogi unigolion o’r cymunedau hyn sydd yn ddi-waith yn hirdymor neu’n economaidd anweithgar i ddatblygu’r hyder, sgiliau a gwybodaeth a fydd yn gwella eu siawns o gael swydd, lleoliad gwirfoddoli neu hyfforddiant pellach.

If you are living in Newport or Monmouthshire, aged over 25 and from a Black & Minority Ethnic (BAME) or Migrant community and interested in moving into Training, Volunteering and Employment we can help.

We are supporting individuals from these communities who are long term unemployed or economically inactive, to develop the confidence, skills and know how that will improve your chances of getting a job, a volunteering placement or further training.

Gallwn eich helpu chi os ydych chi:

■ yn aelod o gymuned ddu a lleiafrifol ethnig neu’n ymfudwr neu ffoadur, a

■ dros 25 oed, a

■ yn economaidd anweithgar neu’n ddi-waith yn hirdymor (gan gynnwys ffoadur sy’n ddiwaith), a

■ â diddordeb mewn hyfforddiant, gwirfoddoli neu gael swydd, a

■ yn byw yng Nghasnewydd neu Sir Fynwy

We can help you if you:

■ a member of a BAME community or a migrant or a refugee, and

■ over 25, and

■ Economically inactive or long term unemployed (including a refugee who is unemployed), and

■ Interested in training, volunteering or getting a job, and

■ Living in Newport or Monmouthshire

Gadewch inni eich helpu trwy’r prosiect ACE!

Mae SEWREC yn cynnig cefnogaeth un-i-un a chyfleoedd dysgu hyblyg sy’n addas i’ch anghenion. Mae ein tîm yn gyfeillgar a chefnogol ac rydym yn ceisio gwneud ein cyrsiau a digwyddiadau ar gael yn eich cymuned leol. Rydym yn arbennig o awyddus i gynnig cymorth i fenywod.

Lleoliadau Gwirfoddoli a Gwaith

Rydym yn chwilio am sefydliadau a allai gynnig cyfleoedd gwirfoddoli neu leoliadau gwaith i bobl yr ydym yn ceisio eu cefnogi. Rydym yn rhoi cefnogaeth i bob lleoliad er mwyn ei wneud yn brofiad gwerth chweil ar gyfer yr unigolyn sy’n gwirfoddoli a’r sefydliad sy’n lletya.

Mentoriaid Gwirfoddol

Rydym hefyd yn chwilio am fentoriaid gwirfoddol sy’n barod i roi o’u hamser a’u profiad i helpu unigolyn sy’n cofrestru ar y prosiect ACE. Bydd pob mentor yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr, cymorth gan y tîm a threuliau.

Let us help you through the ACE Project!

SEWREC offers one-to-one support and flexible learning opportunities that are suited to your needs. Our team are friendly and supportive and we try to make our courses and events available within your local community. We particularly keen to offer help to women.

Volunteer and Work Placements

We are seeking organisations that could offer volunteering opportunities or work placements to people we are seeking to support. We give support to all placements to make it a worthwhile experience for the individual volunteering and to the host organisation.

Volunteer Mentors

We are also seeking volunteer mentors willing to give their time and experience to help individuals enrolling on ACE. All mentors will receive comprehensive training, support from the team and expenses.

Area covered: Newport or Monmouthshire

Tel: 01633 250 006

Contact info: Alison Shakibi Email Address Alison James Email Address