Pobl

English

DAVID RUSSELL HULME, ARWEINYDD

Mae gyrfa brysur David Russell Hulme fel arweinydd yn mynd ag ef yn rheolaidd i theatrau a neuaddau cyngerdd mawr ledled Prydain, Iwerddon, Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau a Chanada, yn perfformio gyda Chwmni Opera Brenhinol Canada, Gŵyl Christchurch (Seland Newydd) a Gŵyl Ryngwladol G&S Buxton, lle'r arweiniodd adfywiad proffesiynol prin o Princess Ida. Yn 2001 aeth ar daith i Awstralia a Seland Newydd lle yr arweiniodd gerddorfeydd Talaith Victoria, Philharmonia Auckland, a Thŷ Opera Sydney, ymhlith eraill. Mae’n gweithio yn rheolaidd gyda Chwmni Opera enwog Carl Rosa, un o gwmnïau opereta Saesneg pennaf y byd, fel arweinydd a chôr-feistr. Yn 2004 a 2006 aeth ar deithiau i’r Unol Daleithiau a Chanada gyda’r cwmni.

Brodor o Fachynlleth yw David, ac astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth a dysgodd grefft arweinydd gan y meistr Syr Adrian Boult. Enillodd raddau MA a PhD am ei waith ymchwil i gerddoriaeth gan gyfansoddwyr Prydeinig ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth, gan gynnwys erthyglau i’r New Grove Dictionary of Music and Musicians a Proms y BBC. Disgrifiwyd ef yn y cylchgrawn Opera fel “ein hawdurdod pennaf ar lawysgrifau Sullivan”, ac mae wedi ymwneud yn agos iawn â chynyrchiadau cwmnïau opera blaenllaw megis Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Cwmni Cenedlaethol Lloegr, Cwmni Opera Newydd Sadler’s Wells, Cwmni D’Oyly Carte, ynghyd ag eraill yn America ac Awstralia. Mae wedi golygu cerddoriaeth Sullivan ac yr oedd yn ymgynghorydd i ffilm Mike Leigh, Topsy-Turvy, a enillodd Oscar. Cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Rhydychen ei argraffiad o Ruddigore a dorrodd dir newydd ac a gafodd ganmoliaeth gan yr adolygwyr. Bu cwmni Opera North yn perfformio’r argraffiad hwn. Mae gweithiau eraill a olygwyd ganddo i’r un wasg yn amrywio o’r Paukenmesse gan Haydn i Ail Symffoni Walton. Mae David wedi ennyn cryn ddiddordeb a chanmoliaeth yn genedlaethol am ei berfformiadau o gerddoriaeth gan gyfansoddwyr Prydeinig a esgeuluswyd – er enghraifft, bu’n arwain Cerddorfa’r National Festival mewn cyngerdd gyfan o gerddoriaeth gan German yng Ngŵyl Edward German a recordiodd opereta German, Tom Jones, gyda chast o unawdwyr rhyngwladol. Fe’i cyhoeddwyd gan Naxos a’i ddewis yn Recordiad y Flwyddyn gan dderbyn canmoliaeth aruthrol.


Penodwyd Dr Russell Hulme yn Gyfarwyddwr Cerdd cyntaf Prifysgol Aberystwyth yn 1992, gan sefydlu Canolfan Gerdd y Brifysgol ac arwain ei rhaglen hynod lwyddiannus am bron i dri degawd. Ar ei ymddeoliad yn 2020, fe’i penodwyd yn Ddarllenydd Emeritws mewn Cerddoriaeth. Yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, dyfarnwyd iddo Fedal Glyndŵr yn 2012 am ei gyfraniad eithriadol i’r celfyddydau yng Nghymru.


JANICE REES, CYFEILYDD

Ganwyd Janice ym Maesycrugiau ger Llanybydder ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Llandysul. Daeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth i astudio Cerddoriaeth, gan ennill gradd BMus yn 1984. Dechreuodd fyseddu’r piano pan oedd ond pedair oed, a phasiodd ei harholiad Gradd VIII pan oedd yn 12 oed. Tra oedd yn y Brifysgol bu’n astudio piano gyda Richard Simm. Ar ôl graddio, bu Janice yn dysgu cerddoriaeth yn Ysgol Ramadeg Aberdaugleddau ac yna, hyd ei hymddeoliad, yn Ysgol Gyfun Aberaeron. A hithau wedi bod yn aelod frwd o adran yr altos am nifer o flynyddoedd, daeth yn gyfeilydd swyddogol y côr ar ddechrau 1995 wedi ymddeoliad Dr Bernard Smith.

GERAINT JOHN, Y SYLFAENYDD A'R ARWEINYDD CYNTAF

Geraint John

Ganwyd Geraint John yn Nhre-gŵyr ac astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd. Bu’n astudio’r soddgrwth yn broffesiynol gyda William Pleeth, Maurice Eisenberg a Paul Tortelier. Ar ôl treulio rhai blynyddoedd gyda Cherddorfa’r Hallé, fe’i penodwyd yn bennaeth cerddoriaeth yn Ysgol Ramadeg Tamworth ac yna yn Loughborough. Yn 1963 daeth i Aberystwyth i ganu’r soddgrwth yn Ensemble y Brifysgol. Bu Geraint yn arwain nifer o gorau cyn iddo sefydlu Cymdeithas Gorawl Aberystwyth, sef Cymdeithas Gorawl Tamworth, Cantorion Grendon, Cymdeithas Gorawl Loughborough, Undeb Gorawl Aberteifi, Côr Gŵyl Sir Drefaldwyn a Chantorion Aeron. Yn feirniad eisteddfodol profiadol, ef oedd côr-feistr Côr Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth. Parhaodd Geraint i gefnogi’r côr fel Cyfaill i’r Gymdeithas yn ogystal ag fel aelod ffyddlon o’r gynulleidfa hyd at ei farw yn Ionawr 2018.

.