Hanes

STORI'R GYMDEITHAS GORAWL

Geraint John - y sylfaenydd a'r arweinydd cyntaf

Geraint John

Cyn 1970 bu sawl côr yn Aberystwyth, a'r mwyaf nodedig ohonynt oedd Cymdeithas Gorawl Bwrdeistref Aberystwyth, a berfformiai oratorios i gyfeiliant organ mewn capeli ac eglwysi lleol, neu yn Neuadd y Brenin, gan gyflwyno'r un gwaith ar ddwy neu dair noson yn olynol. 'Roedd grwpiau â chysylltiad ag Adran Gerddoriaeth y Brifysgol, fel y cantorion madrigal, a hefyd, yn rhagflaenydd i'r Côr Meibion, yr oedd Gleemen y Swyddfa Bost. Ond erbyn canol y chwedegau yr oedd y côr cymysg wedi marw gan adael bwlch ym mywyd cerddorol y dref.

Cododd y syniad o sefydlu côr newydd yn y dre dros goffi yng nghaffi'r Penguin, hoff gyrchfan aelodau staff yr Adran Gerddoriaeth a'u ffrindiau. Yn gynnar yn haf 1970 penderfynodd Geraint John, chwaraewr soddgrwth ym mhedwarawd llinynnol proffesiynol yr Adran, ac a oedd â phrofiad o arwain côr, ynghyd ag ychydig o ffrindiau oedd yn gantorion brwd, fynd ati i holi a fyddai digon o gefnogaeth. Anfonwyd gwahoddiad ysgrifenedig i gyfeiriadau penodol ynghyd â gwahoddiad ychwanegol mwy cyffredinol ar lafar, i gwrdd yn yr hen Ysgol Gymraeg yn Ffordd Alexandra. Yn y cyfarfod agoriadol ar yr 16eg o Fehefin 1970 yr oedd y neuadd yn llawn ac roedd yn amlwg fod cefnogaeth frwd i'r syniad.

Penderfynwyd yn eitha' buan y dylid cael patrwm o ddau gyngerdd y flwyddyn. Yn y cyfnod hwnnw cynhelid y cyngherddau yn Neuadd y Brenin. Bu'r perfformiad cyntaf yn y Neuadd Fawr yn adeilad newydd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth yn Nhachwedd 1975. Parhaodd Neuadd y Brenin yn lleoliad i gyngherddau'r gwanwyn tan fis Mawrth 1979 ac ers hynny bu'r cyngherddau i gyd yn y Neuadd Fawr.

Y perfformiad cyntaf oedd y bythol boblogaidd Messiah gan Handel. Bu Geraint John yn arweinydd y côr o'r cyngerdd cyntaf hwnnw hyd at wanwyn 2002 pan gwblhaodd ei wasanaeth ymroddedig i'r côr gyda pherfformiad olaf o'r Messiah gerbron cynulleidfa luosog. Parhaodd Geraint i gefnogi’r côr fel Cyfaill i’r Gymdeithas yn ogystal ag fel aelod ffyddlon o’r gynulleidfa hyd at ei farw yn Ionawr 2018. Gadawodd y côr yn nwylo tra medrus David Russell Hulme, Cyfarwyddwr Canolfan Gerddoriaeth y Brifysgol. Yn arweinydd proffesiynol, y mae David yn arbenigwr ar waith Gilbert a Sullivan ac mae'n teithio'r byd yn gweithio ym maes ei arbenigedd.

Tra'n dal i neilltuo amser i berfformio'r prif glasuron fel Messiah ac Elijah, mae'r côr wedi estyn ei repertoire gyda pherfformiadau o Offeren y Coroni a'r Gosberau Sanctaidd gan Mozart, Petite Messe Solenelle a Stabat Mater gan Rossini, Gloria gan Poulenc, Requiem a Magnificat gan John Rutter, Offeren Maria Teresa a Paukenmesse gan Haydn, Carmina Burana gan Orff, Gerontius a Musicmakers gan Elgar a Carmen gan Bizet.

Mae pob un cyngerdd yn arbennig gyda'i atgofion neilltuol i'r rhai fu'n cymryd rhan ynddo. Gobeithiwn fod ein cynulleidfaoedd yn teimlo felly hefyd.